Steffan Alun’s biography, net worth, fact, career, awards and life story

Intro Welsh comedian
Is Comedian 
Stand-up comedian 
From United Kingdom 
Type Entertainment 
Humor 
Gender male
Birth 1985, Swansea, United Kingdom
Age: 35 years
Family
Father: Sion Alun 

Comedïwr yn yr iaith Gymraeg a’r Saesneg yw Steffan Alun (ganwyd 1985). Magwyd ef yn Abertawe. Mynychodd Brifysgol Aberystwyth.

Gyrfa

Dechreuodd berfformio fel comedïwr yn gyson yn 2011 gan gefnogi’r comedïwr Cymraeg a Chymreig arall, Elis James. Mae wedi perfformio rhediad llawn o sioeau yng Ngŵyl Caeredin ers 2015 ac mae’n wyneb adnabyddus yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth ers 2013. Cwblhaodd daith sioe un dyn, Romantic Comedy.

Mae wedi ymddangos ar S4C gan gynnwys ar gyfres Gigl yn 2013 ac ar BBC Radio Cymru gan gynnwys cyflwyno sioe frecwast gyda Kevin Davies ar Radio Cymru Mwy, gorsaf beilot ar-lein cyn BBC Radio Cymru 2 yn 2016.

Yn ogystal â pherfformio mewn cyngherddau ar draws Prydain, mae hefyd yn ymddangos yn gyson yn nosweithiau Stand Up For Wales a gynhelir yn Abertawe ac sy’n cael eu trefnu gan fudiad Yes Cymru. Mae ganddo ei noson fisol ei hun yn Abertawe, ac mae’n un o feirniaid ac MC cystadleuaeth flynyddol y Welsh Unsigned Stand-up Awards.

Arddull

Mae’n perfformio yn y Gymraeg a’r Saesneg gan drafod bywyd bob dydd, Cymreictod a byd-olwg Cymreig a synfyfyrdodau swreal.

Teulu

Mae’n fab i’r diweddar Siôn Alun, Gweinidog yn Abertawe ac ymgyrchydd dros hawliau ac addysg iaith Gymraeg.

Dolenni

  • Steffan Alun ar YouTube
  • Steffan Alun ar Facebook
  • Steffan Alun ar Twitter
  • Proffil ar wefan Glee

Cyfeiriadau

You May Also Like